Ers 2003, cenhadaeth Thunderbird yw cynnig profiad cyfathrebu pwerus y mae modd ei gyfaddasu, sy'n parchu'ch amser, eich data, a'ch preifatrwydd. Mae am ddim i bawb!

Mae cyflawni'r genhadaeth honno'n golygu cadw Thunderbird yn ddiogel, cynnal seilwaith gweinydd cymhleth, diweddaru hen god, cywiro gwallau a datblygu nodweddion newydd. Nid yw'r gweithgareddau hyn yn rhad - mae angen peirianwyr meddalwedd dawnus a seilwaith cadarn.

Felly heddiw rydyn ni'n gofyn i chi ein helpu ni. Os ydych chi'n cael gwerth drwy ddefnyddio Thunderbird, ystyriwch roi cyfraniad i'w gefnogi!

Tîm Thunderbird

Hysbysiad

Mae'n bosibl bod eich porwr neu estyniad yn rhwystro ein platfform rhoddion, Codwch Arian Nawr.

Ceisiwch eto gan ddefnyddio porwr gwahanol, neu analluogi'r estyniad dros dro.