Ryddhewch Eich Blwch Derbyn

Dyma Thunderbird, y rhaglen e-bost, calendr a chysylltiadau sy'n gwneud y mwyaf o'ch rhyddid.

Rhyddid rhag Anrhefn

Gwastraffu llai o amser yn dod o hyd i dabiau porwr.

Cewch fynediad i'ch holl negeseuon, calendrau a chysylltiadau mewn un rhaglen gyflym. Hidlwch a threfnwch eich gwaith yn ôl eich angen. Rheolwch bob cyfrif ar wahân neu mewn blwch derbyn cyfun. Mae Thunderbird yma i symleiddio eich bywyd.

Rhyddid rhag Cam Drafod

Nid yw ein hagenda ni yn un cudd. Rydym yma i wneud y byd yn well.

Mae Thunderbird yn cael ei ariannu gan roddion defnyddwyr. Nid ydym yn casglu data personol, yn gwerthu hysbysebion yn eich blwch derbyn, nac yn hyfforddi AI yn gyfrinachol gyda'ch sgyrsiau preifat. Cod agored yw Thunderbird. Fel rhan o deulu Mozilla gallwch fod yn hyderus ein bod yn blaenoriaethu eich preifatrwydd a'ch diogelwch bob amser.

Rhyddid i fod yn Gîc

Mae Thunderbird i chi.

Mae Thunderbird yn lân a chain o'r cychwyn, ond yn hawdd ei addasu i gyd-fynd â'ch llif gwaith a'ch dewisiadau gweledol. Mae'n llawn nodweddion unigryw a phwerus. Dyma rai y mae pobl yn eu gwerthfawrogi:

Mae ei flwch derbyn cyfun yn fy ngalluogi i gadw'n gall hyd yn oed ar yr adegau prysuraf. Dwi byth am newid rhaglen e-bost eto!
Max
Datblygwr Meddalwedd, Awstria
Rwy wrth fy modd gyda'r nodwedd tag. Rwy'n tagio rhywbeth pwysig ac yn dod o hyd iddo'n gyflym.
Juan
Gwyddonydd Cyfrifiadurol, UDA
Dyma'r rhaglen gyntaf i mi ei gosod ar unrhyw gyfrifiadur personol rwy'n ei ddefnyddio/yn berchen arno... Rwy'n ei ddefnyddio ar Windows / Mac a Linux.
Ernie
Rheolwr TG, DU
Mae cael dewis cod agored arall [ar gyfer] derbyn a rheoli e-bost... yn wych ar gyfer preifatrwydd.
Rolando
Datblygwr Gwe, Costa Rica
Mae [Thunderbird] yn fy ngrymuso i gadw perchnogaeth ar fy e-byst.
Beegy
Peiriannydd, UDA
Bydd yn her i chi i ddod o hyd i raglen sy'n fwy estynadwy na Thunderbird!
Dom
Myfyriwr, DU

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.