Pwy Ydym Ni

Dyma Thunderbird

Mae Thunderbird yn broject meddalwedd cod agored, rhydd a rhad a sefydlwyd yn 2003 i wneud trefnu a chyfathrebu yn haws. Rydym yn cael ein cynnal gan sgiliau a rhoddion miloedd o unigolion hael ac yn cael ein cefnogi gan Mozilla. Mae gwerthoedd hanfodol yn ein harwain ac yn gwneud ein gwaith yn berthnasol. Darllenwch ymhellach i ddysgu mwy.

Gwerthoedd

Cymuned

Corff

Rhain yw ein Gwerthoedd

Tarian gyda logo Thunderbird arni.

Preifatrwydd

Nid chi yw'r cynnyrch.

I ni, mae perchnogaeth data a phreifatrwydd yn hawl i chi ble bynnag rydych yn byw. Mae ein hymrwymiad i'ch data personol yn syml:

  • Nid ydym yn ei gasglu na'i storio oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
  • Rydym yn cymryd gofal mawr i'w gadw'n ddiogel rhag camddefnydd.
  • Fyddwn ni byth yn ei werthu.
  • Rydych chi'n cadw perchnogaeth a rheolaeth arno.
Darllenwch ei polisi preifatrwydd
Allwedd gyda logo Thunderbird arni.

Rhyddid

Mae Thunderbird yn perthyn i chi (a'r byd).

Mae Thunderbird yn Feddalwedd Cod Agored ac Am Ddim, sy'n golygu bod ei god ar gael i'w weld, ei addasu, ei ddefnyddio a'i rannu'n rhydd. Mae ei drwydded hefyd yn sicrhau y bydd yn parhau'n rhydd am byth. Gallwch chi feddwl am Thunderbird fel anrheg i chi gan filoedd o gyfranwyr.

Dysgu Am MPL 2.0
Swigen siarad gyda logo Thunderbird arni.

Llais

Mae gennych chi ran yn nyfodol Thunderbird.

Mae Thunderbird yn rhydd o'r gofynion a'r cymhellion masnachol sy'n aml yn arwain datblygiad meddalwedd. Gall unrhyw un gymryd rhan i helpu i wneud Thunderbird yn well ac ar gael i fwy o bobl. Mae cyngor a etholwyd gan gyfranwyr yn sicrhau bod Thunderbird yn aros yn driw i'w werthoedd a'i genhadaeth.

Yn cael ei yrru gan y Gymuned

Gall unrhyw un helpu i wneud Thunderbird yn well. Gall rhaglenwyr gyfrannu nodweddion y maen nhw'n yn angerddol amdanyn nhw neu wella'r cod presennol. Gall y rhai sy'n amlieithog wneud Thunderbird yn hygyrch i bawb. Gall y rhai sy'n barod i wneud, brofi fersiynau newydd o Thunderbird a materion dogfen. Mae yna lawer o ffyrdd i ddod yn rhan o gymuned lewyrchus sy'n gwneud Thunderbird yn unigryw. Ac os nad oes gennych chi'r amser i wirfoddoli, gallwch chi helpu i gefnogi'r project trwy roddion.

Dysgwch Sut i Gymryd Rhan
Ein Cyfranwyr

Wedi'i lywodraethu gan Cyfranwyr

Mae Project Thunderbird yn cael ei arwain gan Gyngor Thunderbird, corff etholedig sy'n gweithredu'n debyg iawn i fwrdd cyfarwyddwyr ar gyfer project cod agored. Wedi'i sefydlu yn 2014, mae'r cyngor hwn yn cael ei ethol gan gyfranwyr ac yn gweithredu fel eu llais wrth bennu cyfeiriad strategol a nodau Thunderbird. Mae'r Cyngor yn goruchwylio cyllid, yn cymeradwyo cyllidebau, ac yn llunio'r map ffordd cynnyrch, gan sicrhau bod Thunderbird yn aros yn driw i'w werthoedd craidd.

Dysgwch fwy am Gyngor Thunderbird
Philipp Kewisch
Cadeirydd y Cyngor
Patrick Cloke
Ysgrifennydd y Cyngor
Magnus Melin
Aelod o'r Cyngor
Michele Zelco
Aelod o'r Cyngor
Tim Maks van den Broek
Aelod o'r Cyngor
Teal Dulcet
Aelod o'r Cyngor

Yn rhan o Deulu Mozilla

Mae Thunderbird yn gweithredu fel is-gwmni er-elw i'r Mozilla Foundation, y sefydliad dim-er-elw. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i ni o ran cynnig gwasanaethau taledig dewisol i gynnal datblygiad feddalwedd cod agored ac am ddim Thunderbird ymhell i'r dyfodol.

Mae gennym dîm cynyddol o weithwyr dawnus sy'n datblygu a chynnal Thunderbird, yn cydweithredu â'n cymuned a'n partneriaid, ac yn gweithio i gyflwyno Thunderbird i ddefnyddwyr ledled y byd.

Lisa McCormack
Rheolwr Gyfarwyddwr, Gweithrediadau
Ryan Sipes
Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynnyrch
Alessandro Castellani
Cyfarwyddwr, Apiau Bwrdd Gwaith a Symudol
Philipp Kewisch
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Gwe
Adam Polen
Gweinyddwr Llwyfan Systemau Busnes a Data
Alejandro Aspinwall
Sr Software Engineer, Services
Alex Schmitz
Sr UX Engineer, Desktop
Andrei Hajdukewycz
Prif Beiriannydd
Anthony Macchia
Senior FP&A Analyst
Ashley Soucar
Peiriannydd Meddalwedd, Symudol
Ben Campbell
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Bwrdd Gwaith
Brendan Abolivier
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Bwrdd Gwaith
Brian Offredi
Marketing Manager
Chris Aquino
Sr Software Engineer, Services
Chris Roth
Manager, AI R&D
Corey Bryant
Rheolwr, Gweithrediadau Rhyddhau
Daniel Darnell
Sr Release Engineer, Desktop
Danielle Golinsky
Uwch Beiriannydd Meddalwedd, Symudol
Davi Nakano
Sr Software Engineer, Services
Eleanor Dicharry
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Bwrdd Gwaith
Geoff Lankow
Sr Staff Software Engineer, Desktop
Gustavo Palladini
User Interface / Visual Designer
Heather Ellsworth
Staff DevRel Engineer, Community Programs Lead
Jess Charlton
Software Engineer
Jesse Miksic
Sr UX Design Specialist
John Bieling
Sr Software Engineer, Desktop Add-ons
Jon Bott
Rheolwr, Apiau Symudol
Jordan Kab
Staff Software Engineer
Justin Tracey
Peiriannydd Meddalwedd, Bwrdd Gwaith
Kai Engert
Sr Security Engineer, Desktop
Kelly McSweeney
Sr Technical PM
Laurel Terlesky
Rheolwr, Stiwdio Dylunio UI/UX
Lisa Wess
Rheolwr, Gweithrediadau Cymorth i Gwsmeriaid
MadHatter McGinnis
Support Knowledge & Enablement Lead
Magnus Melin
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Bwrdd Gwaith
Malini Das
Rheolwr, Gwasanaethau Gwe
Margaret Baker
Sr Manager, People Operations & Strategy
Marie Gaggi
People & Talent Generalist
Martin Giger
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Bwrdd Gwaith
Melissa Autumn
Peiriannydd Meddalwedd Staff, Gwasanaethau
Monica Ayhens-Madon
Communications & Engagement Specialist
Natalie Ivanova
Sr Manager, Corporate Strategy
Nitasia Dupree
Senior Accountant
Rafael Tonholo
Uwch Beiriannydd Meddalwedd, Symudol
Rebecca Taylor
Dylunydd Cynnyrch
Rob Wood
Sr Software Engineer, Test
Roland Tanglao
Arbenigwr Cymorth Defnyddwyr
Ryan Jung
Sr Site Reliability Engineer
Solange Valverde
Dylunydd Cynnyrch
Stephen King
Sr Release Engineer
Tarandeep Kaur
Sr People Partner
Toby Pilling
Sr Manager, Desktop Engineering
Todd Heasley
Uwch Beiriannydd Meddalwedd, Symudol
Vineet Deo
Peiriannydd Meddalwedd, Bwrdd Gwaith
Wayne Mery
Rheolwr Cymunedol
Wolf Montwé
Staff Software Engineer, Mobile

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Hysbysiad

Mae'n bosibl bod eich porwr neu estyniad yn rhwystro ein platfform rhoddion, Codwch Arian Nawr.

Ceisiwch eto gan ddefnyddio porwr gwahanol, neu analluogi'r estyniad dros dro.